Ymgyrchoedd
Mae`r dudalen hon yn cynnwys manylion am ymgyrchoedd presennol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
O 27 Hydref 2008 bydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn disodli Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail analluogrwydd i gwsmeriaid newydd.
Llawn Bywyd
O dan y faner Llawn Bywyd, mae’r Llywodraeth a grwpiau cefnogol eraill yn ymgymryd â rhaglen eang o weithgareddau i godi proffil y materion ynghylch pobl hyn a’n cymdeithas sy’n heneiddio.
Employ ability
Mae Employ ability ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr sydd am wybod sut y gallant ddefnyddio talent a sgiliau pob anabl a’r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.
Yn Gadarn o Blaid Oedran
Yn hyrwyddo manteision gweithlu o oedran cymysg.
Y Lwfans Tai Lleol
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai i denantiaid sy'n rhentu llety gan landlord preifat. Caiff ei gyflwyno yn genedlaethol o 7 Ebrill 2008.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Lwfans Tai Lleol
Targedu lladron budd-daliadau
Mae`r Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd lladrad budd-daliadau o ddifrif. Mae`r ffaith ei fod yn costio £0.9 billiwn i`r wlad bob blwyddyn yn golygu bod yn rhaid i ni wneud hynny . Er bod mwyafrif y bobl sy`n hawlio budd-dal yn onest, mae`r rhai sy`n cyflawni lladrad budd-daliadau yn dwyn o bocedi trethdalwyr sy`n ufuddhau`r gyfraith yn y DU.
Rydym bellach yn dweud HEB OS NAC ONIBAI. Mae pob twyll budd-daliadau yn drosedd ac mae`r bobl a gaiff eu dal yn torri’r gyfraith yn wynebu cofnod troseddol.
- Ymwelwch â`r wefan Targedu lladron budd-daliadau
Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a chi
Mae`r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn berthynasol i bob cyflogwr a phawb sy`n darparu gwasanaeth i`r cyhoedd, ac eithrio`r Lluoedd Arfog.
Mae`n gyfraith a gynlluniwyd i ddod â chamwahaniaethu yn erbyn pobl anabl i ben. Mae hefyd yn diwallu anghenion busnesau bach a chanolig eu maint, gan ei bod yn ddigon hyblyg i ystyried amgylchiadau unigol eich busnes.
Gwyddom nad oes llawer o amser gennych, felly mae`r wefan hon yn canolbwyntio ar y pethau pwyiscaf y bydd yn rhaid i chi eu gwybod am y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA). Fe`i bwriedir fel canllaw gyflym ac nid yw`n ddatganiad awdurdodol o`r gyfraith.
- Ymwelwch â`r gwefan Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a chi
- Gall ymgynghorwyr a gweithiwr proffesiynol edrych ar ddeunydd yr ymgyrch Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Meddyliwch amdani