Yr hyn a gynigiwn
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd rhagorol i arweinwyr ar lefel Bwrdd, Cyfarwyddwyr a Dirprwy Gyfarwyddwyr.
Mae rhaglen uchelgeisiol o newid ar y gweill. Os gallwch wynebu’r her, gallwn gynnig y cyfle i chi helpu i arwain yn y cyfnod o newid hwn a dylanwadu ar ddyfodol y wladwriaeth les ym Mhrydain.
Rydym yn disgwyl llawer gennych. Ond gallwch ddisgwyl llawer gennym ninnau yn ein tro. Rydym yn credu y cewch eich siomi o’r ochr orau ynghylch yr hyn y gall gyrfa yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ei gynnig i chi:
- cydbwysedd gwaith-bywyd sy’n gweddu i chi
- cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a datblygiad proffesiynol
- cynllun pensiwn rhagorol
- cyfleoedd i ddatblygu’ch gyrfa broffesiynol ymhellach.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.