Cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol
Mae’r Adran yn cynnig amrywiaeth eang o yrfaoedd proffesiynol a fydd yn eich galluogi i barhau i ddilyn eich llwybr gyrfa dewisol.
Cyfrifwyr a phroffesiynolion ariannol
Dylai pob un fod â chymwysterau proffesiynol gan y Pwyllgor Ymgynghorol Cyrff Cyfrifyddu.
Darparwyr yswiriant
Dylai pob un fod â chymwysterau proffesiynol gan y Pwyllgor Ymgynghorol Cyrff Cyfrifyddu.
Archwilio
Dylai pob un fod â chymwysterau proffesiynol gan y Pwyllgor Ymgynghorol Cyrff y Cyfrifwyr neu Aelodaeth Sefydliad Archwilwyr Mewnol
Cyfathrebu
Caiff pob un ei recriwtio trwy gyfrwng Rhwydwaith Cyfathrebu’r Llywodraeth, fel arall rhaid iddynt fodloni ei ofynion.
Meddygon
Dylai pob fod â 2:1 mewn gradd anrhydedd sengl neu gyfun mewn economeg. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar wefan Y Cyngor Meddygol Cyffedinol.
Economegwyr
Dylai pob fod â 2:1 mewn gradd anrhydedd sengl neu gyfun mewn economeg. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar wefan Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth .
Adnoddau Dynol
Gall fod angen Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD neu MICIPD) neu gymhwyster cyfatebol, ar benodiadau Adnoddau Dynol Uwch. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Adnoddau Dynol y Gwasanaeth Sifil.
TG
Gall fod angen gradd a/neu gymhwyster cydnabyddedig ar gyfer systemau gwybodaeth e.e. ITIL / ISEB / BCS ar benodiadau Systemau Gwybodaeth Uwch. Am fwy o wybodaeth edrychwch at OGC - IT Infrastructure Library (ITIL), Information System Examining Board, Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain a Chief Information Officer Counsel.
Cyfreithwyr
Caiff pob un ei recriwtio trwy Wasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth, a dylent feddu ar gymhwyster cyfreithwyr neu fargyfreithwyr (oni bai eu bod yn cael eu recriwtio pan fyddant yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr dan hyfforddiant).
Ymchwil Weithredol
Rhaid bod gan bob un, neu rhaid i bob un ddisgwyl derbyn yn y flwyddyn academaidd y maent yn gwneud cais ynddi, radd dda (2:1 neu well, neu MSc neu PhD) mewn disgyblaeth rifog. Rheolir recriwtio i’r Adran Gwaith a Phensiynau gan Wasanaeth Ymchwil Weithredol y Llywodraeth.
Cyflwyno Polisi a Chyflwyno Gweithredol
Nid oes gofyn am gymwysterau penodol ar hyn o bryd, ond rydym yn datblygu cydnabyddiaeth ffurfiol o’r arbenigedd technegol sydd ei angen ym mhob un o’r meysydd hyn
Caffael a phennu ffynonellau strategol
Dylai pob un fod yn Aelodau llawn o Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi.
Seicolegwyr
Dylai pob un fod â gradd gyntaf mewn Seicoleg, ac yn ddelfrydol cymhwyster ôl-raddedig mewn Seicoleg Alwedigaethol a gydnabyddir gan Gymdeithas Seicoleg Prydain . Dylai darpar ymgeiswyr fod naill ai’n Seicolegwyr Galwedigaethol Siartredig neu’n gallu dangos cynnydd tuag at ddod yn Seicolegydd Galwedigaethol Siartredig. Rheolir recriwtio i’r Adran Gwaith a Phensiynau gan yr Adran Seicoleg Alwedigaethol.
Ymchwilwyr Cymdeithasol
Dylai pob un feddu ar radd dosbarth cyntaf neu ar radd ail ddosbarth uwch (yn achos gradd sydd wedi ei rhannu) neu ar radd uwch mewn disgyblaeth gwyddor gymdeithasol berthnasol, yn ogystal â hyfforddiant achrededig mewn dulliau ymchwil gymdeithasol fel rhan o radd neu gwrs cydnabyddiedig arall. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar Uned Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth .
Ystadegwyr
Dylech feddu ar radd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn disgyblaeth rifog (e.e. mathemateg, economeg, gwyddorau, astudiaethau busnes, seicoleg a daearyddiaeth). Rheolir recriwtio i’r Adran Gwaith a Phensiynau gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth