Amdanom Ni

Pwy ydym

Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ran allweddol wrth gefnogi lles cymdeithasol ac economaidd y DU. Bydd pawb ym Mhrydain Fawr, fwy neu lai, yn dod i gysylltiad â ni ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae ein gwasanaethau’n effeithio ar fywydau miliynau o bobl bob dydd ac rydym yn gweithredu ar raddfa heb ei hail iddi bron yn Ewrop.

Rydym ar hyn o bryd yn cyflogi dros 100,000 o bobl yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn  ein busnesau, gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, pensiynau a budd-daliadau i filiynau o bobl bob wythnos gyda throsiant o fwy na £100 biliwn y flwyddyn.

Darllenwch ragor am ein nodau ac am ein heriau.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa i uwch weision sifil ar lefel Bwrdd, ar gyfer Cyfarwyddwyr a Dirprwy Gyfarwyddwyr. Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r unig sefydliad, fwy na thebyg, lle gallech gael gyrfaoedd eithriadol o wahanol bob ychydig o flynyddoedd, gan amrywio o’r gyfraith i gyfathrebu i Adnoddau Dynol, i TG, i lunio polisi.

Darllenwch ragor am yr Uwch Wasanaeth Sifil.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.