Cydbwysedd bywyd-gwaith
Rydym yn deall bod gan y bobl sy’n gweithio i ni fywydau y tu allan i’r Adran. Ac rydym o’r farn bod pobl yn rhoi o’u gorau pan fo ganddynt y cydbwysedd cywir rhwng eu bywydau preifat a phroffesiynol.
Er mwyn eich cynorthwyo i gael y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy’n gweddu i chi, mae gennym amrywiaeth ragorol o bolisïau, gan gynnwys:
- oriau gweithio hyblyg
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol a 10.5 o ddiwrnodau cyhoeddus a gwyliau braint mewn blwyddyn (pro-rata i weithwyr rhan-amser)
- amser rhydd i ymdrin ag argyfyngau
- polisïau addas i’r teulu, gan gynnwys contractau rhan-amser ac am ran o’r flwyddyn.
- lwfans hael ar gyfer mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
- gwyliau gofalwyr
- darpariaeth gofal plant mewn rhai lleoliadau
- gwasanaethau iechyd galwedigaethol, gan gynnwys cynghori a darpariaeth gofal llygaid.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.