Advisers

Gwasanaeth Anfon Llythyrau Ymlaen

Mae DWP yn cynnig gwasanaeth anfon llythyrau ymlaen ar gyfer cwmnïau pensiwn ac yswiriant sydd am anfon gwybodaeth fuddiol ymlaen at gwsmeriaid, fel arfer am bensiynau neu bolisïau yswiriant.

Rhaid gwneud pob ymdrech yn gyntaf i olrhain y person dan sylw cyn gofyn i ni anfon unrhyw lythyrau ymlaen.

£2.05 (yn cynnwys taw) yw’r gost ar gyfer pob achos, ac mae’n rhaid talu ymlaen llaw.

Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth i anfonwr y llythyr am unrhyw unigolyn a chadwn yr hawl i wrthod ceisiadau neu i stopio prosesu ceisiadau unrhyw bryd. Yn ogystal, ar y person y cysylltir ag ef/hi y mae’r cyfrifoldeb am ymateb, nid ar DWP.

Gellir cael gwybodaeth yn y Daflen Cyfarwyddyd am Anfon Llythyrau Ymlaen,(27KB) PDF a gallwch ddefnyddio’r ffurflenni canlynol i wneud cais:

Hefyd, gallwch weld sampl o’r math o lythyr y gallwn ei anfon ymlaen (12KB) PDF

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwasanaeth hwn, gallwch gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.