Gwasanaethau a
budd-daliadau

Budd-dal Treth Cyngor

Diweddarwyd ddiwethaf fis Mawrth 2007

Eich cyngor lleol sy'n delio â'r budd-dal hwn

brig y dudalen

Beth ydyw?

brig y dudalen

Allaf i ei gael?

Ydych chi:

Os ateboch YDW i'r ddau, gwnewch gais am Fudd-dal Treth Cyngor.

brig y dudalen

Beth arall ddylwn i wybod?

Os ydych chi wedi dod i Brydain Fawr yn ddiweddar, darllenwch yn gyntaf rheolau ychwanegol os ydych chi wedi dod o dramor

Os nad ydych yn 60 oed neu'n hŷn ac yn derbyn credyd gwarant y Credyd Pensiwn, fel rheol bydd cynilion dros £16,000 yn golygu na allwch chi dderbyn Budd-dal Treth Cyngor.

Bydd cynilion dros £6,000 yn effeithio ar faint o Fudd-dal Treth Cyngor y gallwch ei dderbyn.

Os ydych chi wedi dod i'r Deyrnas Unedig (DU) o fewn 2 flynedd i'ch cais, gallai hyn effeithio ar eich Budd-dal Treth Cyngor.

Os ydych chi'n fyfyriwr llawn amser, ni fydd rhaid i chi dalu treth cyngor fel arfer.

Os yw'ch partner yn fyfyriwr, efallai y gallwch dderbyn Budd-dal Treth Cyngor.

Ni all y rhan fwyaf o geiswyr lloches a phobl a noddir i fod yn y DU dderbyn Budd-dal Treth Cyngor fel arfer.

Mae partner yn golygu person rydych yn briod â hwy neu berson rydych yn byw gyda hwy fel petaech yn briod â hwy.

brig y dudalen

Ad-daliad Ail Oedolyn

Beth ydyw?

Cymorth os mai chi yw’r unig berson sy’n gyfrifol am dalu treth cyngor ar gyfer eich cartref, ac rydych yn rhannu eich cartref gydag un oedolyn neu fwy na all dalu tuag at y dreth cyngor.  Os yw un o’r bobl rydych yn rhannu eich cartref â hwy yn bartner i chi ac na yw’n cael ei hanwybyddu at ddibenion treth, ni allwch wneud cais am ail ad-daliad oedolyn. Dylech wneud cais am Fudd-dal Treth Cyngor os oes gennych chi a’ch partner ar incwm isel ar y cyd.

Mae partner yn golygu:

Allaf i ei gael?

Os nad ydych yn rhannu eich cartref gyda’ch partner, neu os anwybyddir eich partner at ddibenion treth cyngor,

ac

rydych yn rhanni eich cartref gydag un oedolyn  neu fwy nad yw’n barnter i chi ac:

yna dylech wneud cais am Ail Ad-dalaid Oedolyn

Faint ydyw?

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar incwm yr oedolyn arall/oedolion eraill  a bydd yn ganran benodol o’ch bil treth cyngor, hyd at uchafswm o 25%, neu 100% ar gyfer myfyrwyr llawn amser.

brig y dudalen

Beth arall ddylwn i wybod?

Gallech gael Ail Ad-daliad Oedolyn hyd yn oed os na chewch Budd-dal Treth Cyngor arferol.

Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Treth Cyngor ni fydd yn rhaid i chi wneud cais am Ail Ad-daliad Oedolyn.

Bydd Ail Ad-daliad Oedolyn yn seiliedig ar amgylchiadau yr oedolyn arall, ond bydd yn rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y dreth gynor ei hawlio.

Ni fydd eich incwm a’ch cynilion yn effiethio ar Ail Ad-daliad Oedolyn. Gallwch barhau i wneud cais hyd yn oed os oes gennych gynilion sy’n fwy na £16,000.

Os ydych yn fyfyriwr llawn amser a bod un neu fwy o oedolion yn byw gyda chi ar incwm isel (ac eithrio eich partner, neu unrhyw fyfyrwyr llawn amser eraill), gallwch wneud cais am Ail Ad-dalaid Oedolyn.

Os bydd hawl gennych i gael Budd-dal Treth Cyngor a’r Ail Ad-daliad oedolyn, cewch yr un a fydd yn rhoi mwyaf o arian i chi. Os ydych yn 60 oed a throsodd, gallech gael Ail Ad-daliad Oedolyn wedi’i ôl-ddyddio am hyd at 12 mis.

brig y dudalen

Faint fyddaf yn ei gael?

Wrth gyfrifo'ch Budd-dal Treth Cyngor, bydd y cyngor yn ystyried:

Mae'r swm mwyaf o Fudd-dal Treth Cyngor y gallwch ei dderbyn yr un faint â'r dreth cyngor lawn mae'n rhaid i chi dalu. Mae rheolau arbennig ar gyfer myfyrwyr.

Ar y cyfan, mae'r cyfraddau a ddefnyddir i gyfrifo'ch Budd-dal Treth Cyngor yr un faint â'r lwfans a'r premiymau sy'n gwneud y Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) sy'n seiliedig ar incwm. Mae rhai eithriadau, a restrir isod.

Defnyddiwch y symiau a ddangosir fel canllaw yn unig. Mae rheolau budd-daliadau'n golygu y gallai'ch amgylchiadau unigol effeithio ar faint y cewch chi. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi bob tro'n gallu cyfrifo yn union faint y byddwch yn ei dderbyn drwy ddefnyddio'r symiau hyn.

Symiau wythnosol:

Didyniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn ddibynyddion
Yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn dim didyniad
Mewn gwaith â thâl ac
Incwm gros wythnosol yn llai na £157.00 £2.30
Incwm gros wythnosol rhwng £157.00 a £270.99 £4.60
Incwm gros wythnosol rhwng £271.00 a £337.99 £5.80
Incwm gros wythnosol yn £338.00 neu fwy £6.95
Eraill sy'n 18 oed neu'n hŷn a ddim mewn gwaith â thâl £2.30
Ad-daliad Ail Oedolyn Swm y bil treth cyngor
Ad-daliad ar gyfer oedolion sydd ar Gymhorthdal Incwm,
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn
25%
Incwm gros wythnosol yr ail oedolyn yn llai na £157.00 15%
Incwm gros wythnosol yr ail oedolyn rhwng £157.00 a £203.99 7.50%
Premiwm i bobl sydd â hawliau diogel
Teulu (cyfradd rhiant unigol) £22.20

brig y dudalen

Sut ydw i'n gwneud cais?

Gwnewch gais ar unwaith. Os byddwch yn oedi, gallech golli budd-dal.

Gallwch wneud cais hyd at 13 wythnos cyn y bydd gennych hawl i Fudd-dal Treth Cyngor. Felly, os ydych yn gwybod y byddwch yn symud i gyfeiriad newydd yn fuan, gallwch wneud cais am Fudd-dal Treth Cyngor er na fydd yn cael ei ddyfarnu cyn i chi symud i mewn.

Os byddwch chi'n symud i gyfeiriad newydd, neu os bydd amgylchiadau eraill yn newid, dylech roi gwybod i'ch cyngor ar unwaith. Efallai bydd angen i chi wneud cais newydd am Fudd-dal Treth Cyngor.

Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad eich cyngor lleol yn adran rhifau busnes y llyfr ffôn. Chwiliwch o dan enw'ch Cyngor Sir, Cyngor Bwrdeistref, Cyngor Dinas, neu mewn rhai ardaloedd, Awdurdod Unedol newydd neu Fwrdeistref Llundain. Os ydych yn byw yn yr Alban, chwiliwch dan enw'ch Cyngor Rhanbarthol neu Gyngor Ynys.

Mae'n bwysig i ni fod yn sicr ynghylch pwy ydych chi pan fyddwch chi'n gwneud cais. Efallai y bydd angen i ni'ch holi chi am eich cefndir ac edrych ar unrhyw ddogfennau swyddogol sydd gennych i ategu'r wybodaeth y rhowch.

brig y dudalen

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais am Fudd-dal Treth Cyngor

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais am Fudd-dal Treth Cyngor mewn fformat PDF. Sylwer na allwch ddefnyddio'r ffurflen hon yng Ngogledd Iwerddon.

Mae nodiadau gyda`r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i roi gwybod i chi ble i'w hanfon ar ôl ei llenwi.

Os cewch anawsterau technegol wrth:

Cysylltwch â Desg Gymorth yr e-Wasanaeth.

brig y dudalen

Os ydych chi'n anghytuno â phenderfyniad

Os ydych chi wedi cael penderfyniad am Fudd-dal Treth Cyngor ac o'r farn ei fod yn anghywir, gallwch:

Os hoffech i'r cyngor ystyried y penderfyniad eto, neu os hoffech apelio yn ei erbyn, mae'n rhaid i chi wneud hynny cyn pen un mis o'r dyddiad ar lythyr y penderfyniad.

brig y dudalen

Rwy'n ei dderbyn yn barod. Beth fydd yn digwydd:

Os af i i'r ysbyty neu os bydd rhywun rwy'n gwneud cais ar ei g/chyfer yn mynd i'r ysbyty?

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol ac, os yw'n briodol, wrth eich Canolfan Byd Gwaith leol, eich Canolfan Gwaith leol neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol neu wrth Y Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag yr ewch i'r ysbyty neu'n gadael yno. Mae'n rhaid i chi ddweud wrthynt hefyd os bydd rhywun rydych yn derbyn budd-dal ar ei g/chyfer yn mynd i'r ysbyty. Os nad ydych chi'n disgwyl bod yn yr ysbyty yn hirach na blwyddyn, gall y Budd-dal Treth Cyngor barhau.

Os af i dramor i fyw neu i ymweld?

Os ewch chi dramor, bydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau. Rhowch wybod i ni ac i`ch cyngor lleol cyn gynted ag y gallwch eich bod chi'n mynd dramor. Fel arfer, gallwch wneud hyn drwy gysylltu â'ch cyngor lleol ac, os yw'n briodol, eich Canolfan Byd Gwaith leol, eich Canolfan Gwaith leol neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol neu wrth Y Gwasanaeth Pensiwn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gytundebau nawdd cymdeithasol â gwledydd eraill drwy'r wefan hon.

Os ydw i'n rhan o deulu yn y lluoedd arfog sy'n mynd neu'n byw dramor?

Cysylltwch â'ch cyngor lleol am gyngor a help.

Os bydda i'n dechrau gweithio ond bydd fy salwch neu anabledd yn golygu bod rhaid i mi roi'r gorau iddi eto?

Os byddwch yn dechrau gweithio ond yn gorfod rhoi'r gorau iddi cyn pen 52 wythnos yn sgil eich salwch neu anabledd, efallai y byddwch yn gallu mynd yn ôl i Gymhorthdal Incwm ar yr un lefel â'r hyn roeddech yn derbyn cyn i chi ddechrau gweithio.

Er mwyn gallu gwneud hyn:

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith, eich Canolfan gwaith neu eich swyddfa nawdd cymdeithasol eich bod wedi dechrau gwaith neu hyfforddiant cyn pen un mis o'r dyddiad y dechreuoch.

Ni allwch gael diogelwch os daeth eich budd-dal i ben oherwydd prawf meddygol.

Os bydda i'n dechrau gwaith gwirfoddol?

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol am unrhyw fath o dâl y derbyniwch, gan gynnwys tâl am waith gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys tâl nad yw'n arian, a allai fod yn rhywbeth fel tocynnau bwyd. Efallai y gallant anwybyddu rhai o'r taliadau hyn wrth gyfrifo'ch budd-dal.

Os af i i gartref gofal?

Os ewch i ofal preswyl yn barhaol, fel rheol ni allwch dderbyn Budd-dal Treth Cyngor.

Os ewch dros dro, mae`n bosibl i chi dderbyn Budd-dal Treth Cyngor o hyd. Holwch eich cyngor lleol.

brig y dudalen

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth neu daflenni, cysylltwch â'ch cyngor lleol, Canolfan Byd Gwaith, Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol neu Y Gwasanaeth Pensiwn.

brig y dudalen

Help arall

Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodol o'r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar y dyddiad a ddangosir ar frig y dudalen. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.

brig y dudalen

Ieithoedd eraill

Mae'r daflen `Help gyda'ch treth cyngor GL17` ar gael mewn ieithoedd eraill.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.