Ymddeol yn gynnar
Diweddarwyd ddiwethaf fis Rhagfyr 2003
I gael gwybodaeth a gwasanaethau sydd ar gael i gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn.
Os byddwch chi'n ymddeol yn gynnar, ni allwch chi dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth nes byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond gallwch gael rhagolwg o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ddisgwyl ei gael. I ofyn am ragolwg, darllenwch y wybodaeth am Ragolwg Pensiwn neu cysylltwch â`r Gwasanaeth Pensiwn, neu ysgrifennwch at:
Retirement Pension Forecasting Team
Toom TB001
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
Ffôn 0845 3000 168 (ffôn testun 0845 3000 169)
Ni fydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) os na fyddwch yn dechrau gweithio eto cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Efallai y bydd angen i chi dalu cyfraniadau ychwanegol i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn eich Pensiwn Ymddeol Sylfaenol llawn.
Os ydych yn ddyn 60 oed neu`n hŷn sydd ddim yn gorfod talu cyfraniadau YG, fel arfer byddwch yn cael credydau YG nes cyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r rhain yn dechrau yn y flwyddyn dreth pan gawsoch eich pen-blwydd yn 60 oed.
Os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y gallwch dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith.
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybodaeth am y Gwarant Isafswm Incwm i bensiynwyr, ewch i www.ygwasanaethpensiwn.gov.uk/welsh/pensioncredit/home.asp.
Gwnewch gais am Ragolwg Pensiwn ar-lein.
Help arall
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Pensiynau galwedigaethol
- Pensiynau personol
- Lwfans Gweini
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodol o'r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar y dyddiad a ddangosir ar frig y dudalen hon. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.