Canolfan adnoddau

Sut mae gwneud cais

Caiff ein holl swyddi gwag am benodiad cyhoeddus eu hysbysebu ar wefan swyddi gwag yr Uned Penodiadau Cyhoeddus (PAU): www.publicappt-vacs.gov.uk.

Penodir yn ôl haeddiant, drwy gyfrwng prosesau agored, teg a thryloyw, a reoleiddir gan Swyddfa`r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (OCPA). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan www.ocpa.gov.uk.

I ddelio â thangynrychiolaeth merched , pobl anabl a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, rydym yn gweithio gyda’r cwmni ceisio swyddogion gweithredol a recriwtio, Norman Broadbent, sy’n datblygu `The Talent Register`. Cofrestr electronig yw `The Talent Register` lle gall pobl o grwpiau a dangynrychiolir gofrestru eu diddordeb mewn penodiadau cyhoeddus. Ewch i: www.thetalentregister.com

Ar ôl i chi gofrestru ar The Talent Register, rydym yn argymell eich bod yn mynd i wefan yr Uned Penodiadau Cyhoeddus http://www.publicappts-vacs.gov.uk/ bob hyn a hyn hefyd, i sicrhau eich bod yn gwybod am bob swydd wag gyfredol. Mae dethol ar gyfer pob swydd yn seiliedig ar haeddiant a chaiff pob ymgeisydd ei drin yn gyfartal.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.