Canolfan adnoddau

Cyrff cyhoeddus a noddir gan DWP

Mae’r Adran yn noddi ystod eang o gyrff i gyflawni ei hamcanion. Mae’r rhain yn cynnwys Cyrff Cyhoeddus Anadrannol gweithredol, ymgynghorol a thribiwnlys, Corfforaethau Cyhoeddus, yn ogystal â chyrff eraill hyd braich a thymor byr. Gellir mynd at fanylion y cyrff hyn a’u cylchoedd gorchwyl drwy’r cysylltiadau isod.

Cynllun Penodiadau Blynyddol

Argymhellodd 10fed adroddiad y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus y dylai adrannau lunio Cynllun Penodiadau Blynyddol a’i fabwysiadu yn brif ddogfen strategol ar gyfer pob adran, er mwyn gosod polisi ac arfer sy’n berthnasol i benodi cadeiryddion ac aelodau o fyrddau yn gyhoeddus i’r cyrff cyhoeddus y maent yn eu noddi.

Darllenwch y Gynllun Penodiadau Blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau 2008 (161KB) PDF cyfredol. Am ragor o wybodaeth ac at ddibenion cyfeirio’n unig, gallwch hefyd ddarllen Gynllun Penodiadau Blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau 2007 (210KB) PDF

Cyrff Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae cyfeirlyfr Cyrff Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi braslun cynhwysfawr o’r cyrff cyhoeddus a enwebwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Darllenwch gyfeirlyfr presennol Cyrff Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau 2008 (268KB) PDF.

Am wybodaeth a chyfeiriad yn unig, gallwch hefyd ddarllen cyfeirlyfr Cyrff Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau 2007 (386KB) PDF. Mae cyfeirlyfrau cyn-2007 ar  wefan y Gwasanaeth Sifil .

Cyrff Cyhoeddus Anadrannol (NDPB)

Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant

Mae’r 'Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant' yn gyfrifol am y system cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr. Ei brif amcan yw sicrhau’r nifer fwyaf o drefniadau cynhaliaeth plant effeithiol sydd ar waith i blant sy’n byw ar wahân i un neu ddau o’u rhieni. Gall rhieni wneud trefniadau yn breifat neu drwy’r cynllun statudol.

Pwyllgor Ymgynghorol ar Gyflogaeth Pobl Anabl (DEAC)

Cylch gorchwyl y DEAC yw cynnig cyngor strategol i Weinidogion a swyddogion ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith a`i gadw; cyflwyno argymhellion ar y gefnogaeth y mae ei hangen i ddod dros rwystrau o’r fath; a chynnig cyngor cyfrinachol am effeithiolrwydd polisïau’r farchnad lafur.

Bwrdd Ymgynghorol Lwfans Byw i’r Anabl

Cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau a meddygon gwasanaethau meddygol ar faterion sy’n ymwneud â’r Lwfans Byw i’r Anabl a’r Lwfans Gweini.

Comisiwn Hawliau Anabledd

Ar 1 Hydref 2007, cyfunodd y Comisiwn Hawliau Anabledd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cydraddoleb 2025

Mae Cydraddoldeb 2025 yn gorff cynghori newydd i helpu’r Llywodraeth i ddeall anghenion a dymuniadau pobl anabl wrth ddatblygu polisïau a chynllunio cyflenwi gwasanaeth.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn gyfrifol am reoli bron i bob risg i iechyd a dioglech sy’n deillio o weithgareddau byd gwaith ym Mhrydain. Cynlluniwyd strategaeth HSE i hyrwyddo ei weledigaeth o ran iechyd a diogelwch fel conglfaen cymdeithas waraidd a, chyda hynny, cyflawni cofnodion iechyd a diogelwch yn y gweithle sy’n arwain y byd. Cenhadaeth y HSE, drwy weithio gydag Awdurdodau Lleol, yw amddiffyn iechyd a diogelwch pobl drwy sicrhau bod risgiau mewn gweithleoedd newidiol yn cael eu rheoli’n gywir.

Cronfeydd Byw yn Annibynnol

Darparu cymorth ariannol o dan delerau gweithredoedd yr Ymddiriedolaeth mewn ffordd effeithlon a chost effeithiol sy’n parchu ac sy’n cefnogi gofynion person anabl ar gyfer gofal personol a chymorth cartref sy’n galluogi iddo fwy yn annibynnol.

Cyngor Ymgynhori ar Anafiadau Diwydiannol

Cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol ar: dosbarthiad afiechydon diwydiannol, rheoliadau o dan y Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 a’r Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau 1992, a’r Cynllun Budd-dal Anafiadau Diwydiannol ei hunan.

Cronfa Diogelu Pensiynau

Sefydlwyd y Gronfa Diogelu Pensiwn i dalu iawndal i aelodau o gynlluniau pensiwn cymwys â buddion wedi’u diffinio, pan fydd digwyddiad ansolfedd cymwys mewn perthynas â’r cyflogwr lle nad oes asedion digonol yn y cynllun pensiwn i gwmpasu  lefelau iawndal y Gronfa Diogelu Pensiwn.

Ombwdsmon y Gronfa Diogelu Pensiwn

Ymchwilio a phenderfynu ar gwynion am y ffordd yr ymdriniwyd ag achosion gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiwn.

Ombwdsmon Pensiynau

Ymchwilio a phenderfynu ar gwynion ac anghydfodau sy’n ymwneud â chynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol. Mae’r Ombwdsmon yn gwbl annibynnol ac yn gweithredu fel dyfarnwr diduedd.

Remploy Ltd

Rhedir y corff hwn fel cwmni preifat a’i gylch gwaith yw ehangu ar y cyfleoedd ar gyfer pobl anabl mewn cyflogaeth gynaliadwy yn Remploy a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Y Pwyllgor Ymgynghori ar Nawdd Cymdeithasol (SSAC)

Yn cynghori ar faterion Nawdd Cymdeithasol yn gyffredinol; gall adrodd ar reoliadau a gyfeiriwyd gan yr Ysgrifennydd Dros Waith a Phensiynau neu Adran Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am Nawdd Cymdeithasol.

Y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau

Darparu gwasanaeth annibynnol o safon uchel am ddim i aelodau’r cyhoedd sydd naill ai ag ymholiad cyffredinol neu benodol neu gwyn ynglyn â phensiwn.

Y Rheolydd Pensiynau

Mae’r Ddeddf Pensiynau 2004 yn rhoi set o amcanion penodol i’r Rheolydd Pensiynau:

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.