Latest news
Diwygio Lles
Mae'r Llywodraeth yn ymrwymedig i adeiladu cymdeithas gynhwysol a theg, ac economi lewyrchus, lle mae gan bawb gyfle i wireddu eu potensial.
Mae cyflogaeth lawn wrth wraidd y strategaeth. Mae gan y Llywodraeth nod hirdymor o gyfradd cyflogaeth o 80 y cant. Bydd yn ein helpu i fynd i'r afael â thlodi a sicrhau bod Prydain mewn sefyllfa dda i ymateb i newid economaidd, a chael budd o'r manteision.
Mae'r Llywodraeth am i gymaint o bobl â phosibl i fanteisio ar wobrau gwaith. Maent yn credu mai gwaith â thâl yw'r llwybr gorau at annibyniaeth, iechyd a lles ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.
Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflwyno cyfres o ddiwygiadau radical i wella'r cyfleoedd i bobl weithio. Ond mae angen gwneud mwy.
Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb
Bydd y cam nesaf o'r broses radical o ddiwygio lles yn symleiddio'r system budd-daliadau ac yn rhoi cymorth mwy personol i bobl yn gyfnewid am fwy o gyfrifoldeb. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio - a all weithio nawr neu ar ryw adeg yn y dyfodol - ar fudd-daliadau am oes mwyach heb gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddychwelyd i'r gwaith.
Ar 21 Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb sy'n nodi amrywiaeth o opsiynau ar gyfer:
- symleiddio'r system budd-daliadau - symud tuag at system fwy syml sy'n seiliedig ar ddau fudd-dal oedran gweithio yn unig: Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i'r rhai sydd â chyflwr meddygol sy'n eu hatal rhag gweithio a Lwfans Ceisio Gwaith i bawb sy'n addas i weithio
- sicrhau mai dim ond ateb dros dro yw budd-daliadau allan o waith i'r rhan fwyaf o bobl - nid oes hawl i oes o fudd-daliadau
- ei gwneud yn ofynnol i'r rhan fwyaf o bobl ar fudd-daliadau gyfrannu'n weithredol yn gyfnewid am eu budd-daliadau
- rhoi mwy o gymorth i bobl anabl i fynd i mewn i waith a chadw eu swyddi a mwy o reolaeth dros y cymorth a gânt
- anwybyddu taliadau cynhaliaeth plant yn llwyr, fel na ystyrir taliadau wrth gyfrifo faint o fudd-daliadau allan o waith y dylai rhieni ei gael.
Mae'r papur yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn tan fis Medi 2008, a bydd y canlyniadau'n llywio mesur yn sesiwn nesaf y senedd.
Gwyliwch dair ffilm fer sy'n archwilio'r camau y mae rhai o'n cwsmeriaid wedi eu cymryd er mwyn cael gwaith ar ôl cyfnod hir o ddiweithdra.
Y stori hyd yma
Gan adeiladu ar economi a gaiff ei rhedeg yn dda, rydym wedi:
- sefydlu'r Ganolfan Byd Gwaith fel sefydliad o fudd-dal i waith blaenllaw
- cyflwyno rhaglenni cyflogaeth arloesol fel y Bargeinion Newydd
- cyflwyno Llwybrau at Waith yn genedlaethol i bobl ar fudd-daliadau analluogrwydd
- gwella cymhellion i weithio drwy roi gwell cymorth drwy'r system credydau treth a thrwy gyflwyno'r isafswm cyflog.
Gyda'i gilydd, mae'r diwygiadau hyn wedi arwain at welliant enfawr ym mherfformiad marchnad lafur y DU. Mae gennym y nifer fwyaf o bobl erioed mewn gwaith, ac mae'r niferoedd ar fudd-daliadau allan o waith allweddol wedi gostwng tua un miliwn ers 1997.
Edrych i'r dyfodol
Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae'r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi diwygiadau pellach:
- Bydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn disodli budd-daliadau analluogrwydd i hawlwyr newydd o fis Hydref 2008 a bydd yn canolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud, yn hytrach na'r hyn na allant ei wneud
- Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn dechrau cynnal treialon sgiliau gwaith o fis Hydref 2008
- bydd fframwaith cryfach o hawliau a chyfrifoldebau ar gyfer rhieni unigol yn dechrau ym mis Tachwedd 2008.