Neb yn cael ei anwybyddu – yr hyn a ddigwyddodd
Adroddiad ymgynghori annibynnol
Cyhoeddwyd y Papur Gwyrdd 'Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb' ar 21 Gorffennaf 2008. Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori cyhoeddus o dri mis wedi hynny, a ddaeth i ben ar 22 Hydref 2008. Gwerthuswyd ymatebion i'r ymgynghoriad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac mae crynodeb o'r ymatebion wedi'i gynnwys fel atodiad i'r Papur Gwyn Codi disgwyliadau a chynyddu cefnogaeth: diwygio lles ar gyfer y dyfodol
Gwerthuswyd ymatebion yn annibynnol hefyd gan GfK NOP Social Research. Daeth eu hadroddiad 'Ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd: Neb yn cael ei anwybyddu - diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb' i'r casgliad fod y rhan fwyaf o bobl yn croesawu diwygio lles a'u bod yn cydnabod bod angen newid. Canfu eu hymchwil hefyd fod ymatebwyr yn teimlo ei bod yn hanfodol i ystyried anghenion penodol gwahanol grwpiau o bobl y mae'r diwygiadau yn effeithio arnynt wrth weithredu cynigion y Papur Gwyrdd.
Darllenwch ganfyddiadau'r ymchwil:
- Ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd: Neb yn cael ei anwybyddu - diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb (681KB)

Ymchwilo i farn y cyhoedd
Roedd y Papur Gwyrdd “Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb” yn ymgynghoriad eang ar ddyfodol lles. Rhwng mis Awst a mis Medi 2008, gwnaethom geisio barn y cyhoedd ar amrywiaeth o gynigion y Papur Gwyrdd. Ymgymerwyd â’r ymchwil gan GfK NOP Social Research ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cafodd y mwyafrif helaeth o gynigion polisi a gynhwyswyd yn yr ymchwil gefnogaeth frwd gan y cyhoedd yn gyffredinol. Roedd cyfranogwyr yn arbennig o gadarnhaol ynghylch darparu cymorth unigol i helpu pobl i gael cyflogaeth fel cynlluniau gweithredu ‘dychwelyd i’r gwaith’ y dylid cytuno arnynt rhwng cyflogeion sydd ar absenoldeb salwch a chyflogwyr i nodi’r camau y mae angen eu cymryd i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Cafwyd cefnogaeth frwd hefyd ar gyfer cynnig y dylai pobl sy’n cael budd-daliadau gymryd rhan mewn hyfforddiant a/neu waith cymunedol yn gyfnewid am fudd-daliadau a gofyniad i gamddefnyddwyr cyffuriau sy’n ddi-waith fynd i’r afael â’u problemau.
Darllenwch ganfyddiadau’r ymchwil:
- Adroddiad cryno ar ymchwil (1.0MB)

- Adroddiad ar ymchwil ansoddol (856KB)

- Adroddiad ar ymchwil ansoddol (536KB)

Digwyddiadau ymgynghori
Roedd y fforymau ymgynghorol Diwygio Lles yng Nghaerdydd, Llundain, Caeredin a Newcastle yn cynnwys nifer o sesiynau gweithdai. Dyma oedd cyflwyniadau’r gweithdai:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth fel budd-dal gweithredol: cefnogi pobl ag anableddau i mewn i waith (1.9MB)

- Camau gweithredol tuag at waith: helpu mwy, disgwyl mwy? (86KB)

- Symleiddio’r system fudd-dal (63KB)

- Strategaethau i gynyddu cyflogaeth ymhlith rhieni; gwella'r ffocws ar waith (179KB)

- Camau nesaf ar gyfer yr asesiad gallu gwaith (76KB)

- Ffordd newydd o gyflenwi ein gwasanaethau (85KB)
- Beth yw eich barn am rôl cyflogwyr? (1.5MB)

- 24 Hydref – Mynychodd James Purnell, Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, ymgynghoriad Diwygio Lles yn Newcastle. Ymhlith y cyflwynaidau a roddwyd gan siaradwyr allweddol oedd: Martin Swales, Cyfarwyddwr Strategaeth ar gyfer Cyngor Gogledd Tyneside (346KB)
; a Jacquie Wood, Adran Gwaith a Phensiynau (166KB)
. Gosododd yr Athro Paul Gregg ei weledigaeth hirdymor ar gyfer yr Adolygiad Amodol ac roedd yn croesawu adborth drwy e-bost at: paul.gregg@dwp.gsi.gov.uk (DS: nid oes cyflwyniad ar gael ar gyfer Paul Gregg). - 9 Hydref – Mynychodd Jonathan Shaw, Gweinidog Pobl Anabl, y fforwm ymgynghori ar Ddiwygio Lles yng Nghaeredin. Roedd y cyflwyniadau a roddwyd gan siaradwyr allweddol included yn cynnwys: Sheila Riddell, Canolfan ar gyfer Ymchwil mewn Cynhwysiad Addysg ac Amrywiaeth (757KB)
, Gayle Leiper, Cyfleoedd Cyflogaeth yn yr Alban (228KB)
a Gavin Hay, City Building Glasgow LLP (396KB)
. - 6 Hydref – Mynychodd Tony McNulty, Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles Minister of State for Employment y fforwm ymgynghori ar ddiwygio lles yng Nghaerdydd. Gwnaeth yr Yr Athro Mansel Aylward CB, Cyfarwyddwr, Y Ganolfan Ymchwil Seicolegol ac Anabledd, Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd, Canolfan Iechyd Cymru, roi cyflwyniad ar y digwyddiad ymgynghori (401KB)
- 3 Hydref – Gwnaeth James Purnell, Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, gyfarfod â rhanddeiliad lleol ac ymwelodd â’r prosiect ‘Job, Jump, Start’ sy’n cynnig hyfforddiant i bobl cael gwaith gyda’r GIG yn Aberdeen.
- 19 Medi –Ymwelodd Anne McGuire, Gweinidog Pobl Anabl, â Breakthrough UK yn Lerpwl.
- 19 Medi – Lansiad y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol a’r fforwm ymgynghori ar Ddiwygio Lles, Lerpwl
- 18 Medi – Mynychodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, agoriad Reed in Partnership, Croydon.
- 17 Medi – Ymwelodd yr Arglwydd McKenzie o Efrog ag A4E i gwrdd â darparwyr lleol sy’n gweithio gyda chwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith yn Swydd Efrog a’r Humber.
- 17 Medi – Cwrddodd James Plaskitt AS, â staff a chwsmeriaid yn y Siop Swyddi ym Maes Awyr Birmingham a mynychodd y Ganolfan Arddangos Genedlaethol ar gyfer llofnodi Partneriaeth Cyflogaeth Leol.
- 16 Medi – Ymwelodd James Plaskitt AS â Derby. Mynychodd y digwyddiad opsiynau a dewisiadau rhieni unigol yn y Ganolfan Blant. Cwrddodd â chyflogwyr sydd wedi ymuno â’r Partneriaethau Cyflogaeth Leol a chyda staff a chwsmeriaid Disability Direct.
- 16 Medi – Digwyddiad Byw yn Annibynnol Southwark
- 15 Medi – Cwrddodd Mike O'Brien, Gweinidog Gwladol dros Ddiwygio Pensiynau, â staff y Siop Un Safle yn Suffolk New College
- 15 Medi – Fforwm ymgynghori ar Ddiwygio Lles, Victoria Park Plaza, Llundain
- 12 Medi – Ymwelodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â Glasgow West Regeneration Agency.
- 11 Medi – Ymwelodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â Nissan a chyfarfod â chyflogeion a recriwtiwyd drwy fenter Partneriaethau Cyflogaeth Lleol (LEP) yn Newcastle.
- 9 Medi – Mynychodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, lansiad Llwybrau at Waith Cysylltiadau Gwaith yng Nghaerlyr.
- 8 Medi – Mynychodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, digwyddiad i lofnodi cytundeb LEP ac ymwelodd â chanolfan hyfforddi YMCA yng Nghaergrawnt.
- 8 Medi – Ymwelodd James Purnell, Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, â Chanolfan Blant, Gorllewin Canolbarth Lloegr.
- 8 Medi – Atebodd Anne McGuire, y Gweinidog dros Pobl Anabl, gwestiynau darllenwyr mewn sgwrs ar y we ar Society Guardian
- 4 Medi – Ymwelodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â phrosiect Paddington Waterside
- 2 Medi – Ymwelodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â phrosiect cyflogaeth a sgiliau Reignite, Medway
- 1 Medi – Mynychodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â lansiad Llwybrau at Waith yn Ellesmere Port
- 1 Medi – Dadl RADAR
- 29 Awst – Agorodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, ‘Wembley Works’
- 28 Awst – Ymwelodd Anne McGuire, y Gweinidog dros Pobl Anabl, â ‘Learning Curve’ yn Acton
- 28 Awst – Ymwelodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, ag ‘Action for Employment’ a Chanolfan Blant Southern Way yn Plymouth
- 27 Awst – Cwrddodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â chyn-droseddwyr yng Nghanolfan Gwaith Station Street ac ymwelodd â Charchar EM Nottingham
- 27 Awst – Ymwelodd Anne McGuire, y Gweinidog dros Pobl Anabl, â phrosiect ‘Ness Soaps’, prosiect ‘Newstart Highland’ a phrosiect ‘Farm to Work’, yn Inverness
- 26 Awst – Ymwelodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â canolfan busnes Mynediad at Waith yn Harrow
- 22 Awst – Ymwelodd James Plaskitt ag Ysbyty Wotton, Caerloyw a’r Darparwr Llwybrau at Waith Cysylltiadau Gwaith
- 20 Awst – Ymwelodd Anne McGuire, y Gweinidog dros Pobl Anabl, â phrosiect ‘Highway to Opportunities, ‘Turning Point’ ac Uned Cynhwysiant Cymdeithasol Chadderton Court yn Oldham (cyswllt at erthygl gwefan y ‘Guardian’ ynglyn â’r ymweliad)
- 19 Awst – Atebodd Anne McGuire, y Gweinidog dros Pobl Anabl, cwestiynau gan wrandawyr In Touch BBC Radio 4
- 18 Awst – Atebodd Anne McGuire, y Gweinidog dros Pobl Anabl, cwestiynau gan wrandawyr You and Yours BBC Radio 4
- 14 Awst – James Purnell yn ymateb i adborth ar wefan Netmums ar gynigion y llywodraeth o ran helpu mamau yn ôl i waith.
- 13 Awst – atebodd James Purnell, gwestiynau gan ddarllenwyr yr Halifax Evening Courier, y Bristol Evening Post a’r Glasgow Evening Times
- 7 Awst – Ymwelodd Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, â Llwybr Troseddwyr Grŵp Marriott a Phrosiect Garddwriaethol Canolfan Gweithredu Cyflogaeth Shaw Trust yn Newcastle.
- 30 Gorffennaf – Ymwelodd James Purnell â Phrosiect Dysgu i Oedolion Cyngor Sir Swydd Derby yn Gamesley
- 24 Gorffennaf – Sgwrs ar y We James Purnell ar wefan papur newydd The Sun
- 23 Gorffennaf – Trafodaeth bwrdd Academyddion y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar Ddiwygio Lles
- 22 Gorffennaf – cymerodd James Purnell, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, ran mewn sgwrs ar y we ar wefan 10 Downing Street